Thursday 27 February 2014

Dydd Gwyl Dewi

 Dw i wedi addurno rhai cangen fach  efo cennin Pedr  papur  a defaid  o wlân cotwm.

Saturday 1 February 2014

Imbolc / Candlemas


Cyrhaeddodd Chwefror heddiw efo mwy o stormydd. Mae Imbolc  neu Candlemas bron yma a dw i’n  paratoi arddangosfa o ganhwyllau. Mae gynnon ni  ddigon ohonyn nhw  gartref efo'r holl doriadau pŵer sydd gynnon ni yma yng Nghymru. Mae'n ddathliad Paganaidd o wawrio'r Gwanwyn, er mae’n teimlon fel canol y Gaeaf  heddiw. Mae'n adeg pan er bod y ddaear  dal yn oer a barwn, ac mae’r tywydd dal yn ofnadwy, mae’r diwrnod yn mynd yn hirach a dw i’n meddwl am blannu hadau.

Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd


Roedd hi'n Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ddoe. Yn anffodus roedd fy mab i yn sâl. Ond heddiw  cyflwynodd mi  2 lusern papur hyfryd ei fod wedi  gwneud yn dawel yn ei ystafell. 


Friday 24 January 2014

Santes Dwynwen

Heddiw, dan ni wedi bod yn torri rhai canghennau derw isel iawn yn y cae ac mi wnes i achub cwpl a oedd yn edrych yn eithaf pert efo cen a oakmoss. Mi wnes i rai addurniadau Nadolig  o galonnau crefft bren a defnydd gingham o gloriau pot jam. Hefyd dw i wedi  gwneud cwcis siâp calon, sinamon ac afal. Rŵan mae fy nesg yn cael ei haddurno ar gyfer Santes Dwynwen a dylai parhau tan Ddydd Gŵyl Sant Ffolant.

Cyflwyniad

Mae'r tŷ gwastad yn edrych mor foel ar yr adeg hon o'r flwyddyn ac nid oes dim yn tyfu yn yr ardd i wneud pethau edrych yn well. Dw i’n cofio Wizzard yn canu " I wish it could be Christmas everyday " Dw i ddim isio'r holl drafferth o Nadolig bob dydd ond dw i’n mwynhau gwneud addurniadau ar gyfer y tŷ a rhoddion cartref. Mae gwastad yn rhywbeth i'w ddathlu - Sant Ffolant, Gwanwyn, Sul y Mamau, y Pasg ac ati. Felly eleni dw i'n dechrau’r blog hwn i gofnodi beth i wneud a hefyd i ymarfer ysgrifennu yn y Gymraeg.