Friday, 24 January 2014

Santes Dwynwen

Heddiw, dan ni wedi bod yn torri rhai canghennau derw isel iawn yn y cae ac mi wnes i achub cwpl a oedd yn edrych yn eithaf pert efo cen a oakmoss. Mi wnes i rai addurniadau Nadolig  o galonnau crefft bren a defnydd gingham o gloriau pot jam. Hefyd dw i wedi  gwneud cwcis siâp calon, sinamon ac afal. Rŵan mae fy nesg yn cael ei haddurno ar gyfer Santes Dwynwen a dylai parhau tan Ddydd Gŵyl Sant Ffolant.

Cyflwyniad

Mae'r tŷ gwastad yn edrych mor foel ar yr adeg hon o'r flwyddyn ac nid oes dim yn tyfu yn yr ardd i wneud pethau edrych yn well. Dw i’n cofio Wizzard yn canu " I wish it could be Christmas everyday " Dw i ddim isio'r holl drafferth o Nadolig bob dydd ond dw i’n mwynhau gwneud addurniadau ar gyfer y tŷ a rhoddion cartref. Mae gwastad yn rhywbeth i'w ddathlu - Sant Ffolant, Gwanwyn, Sul y Mamau, y Pasg ac ati. Felly eleni dw i'n dechrau’r blog hwn i gofnodi beth i wneud a hefyd i ymarfer ysgrifennu yn y Gymraeg.