Heddiw, dan ni wedi bod yn torri rhai canghennau derw isel iawn yn y cae ac mi wnes i achub cwpl a oedd yn edrych yn eithaf pert efo cen a oakmoss. Mi wnes i rai addurniadau Nadolig o galonnau crefft bren a defnydd gingham o gloriau pot jam. Hefyd dw i wedi gwneud cwcis siâp calon, sinamon ac afal. Rŵan mae fy nesg yn cael ei haddurno ar gyfer Santes Dwynwen a dylai parhau tan Ddydd Gŵyl Sant Ffolant.
No comments:
Post a Comment