Dw i wedi addurno rhai cangen fach efo cennin Pedr papur a defaid o wlân cotwm.
Popeth Certref
Thursday, 27 February 2014
Saturday, 1 February 2014
Imbolc / Candlemas
Cyrhaeddodd
Chwefror heddiw efo mwy o stormydd. Mae Imbolc
neu Candlemas bron yma a dw i’n
paratoi arddangosfa o ganhwyllau. Mae gynnon ni ddigon ohonyn nhw gartref efo'r holl doriadau pŵer sydd gynnon
ni yma yng Nghymru. Mae'n ddathliad Paganaidd o wawrio'r Gwanwyn, er mae’n
teimlon fel canol y Gaeaf heddiw. Mae'n
adeg pan er bod y ddaear dal yn oer a
barwn, ac mae’r tywydd dal yn ofnadwy, mae’r diwrnod yn mynd yn hirach a dw i’n
meddwl am blannu hadau.
Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
Roedd hi'n Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ddoe. Yn
anffodus roedd fy mab i yn sâl. Ond heddiw
cyflwynodd mi 2 lusern papur
hyfryd ei fod wedi gwneud yn dawel yn ei
ystafell.
Friday, 24 January 2014
Santes Dwynwen
Heddiw, dan ni wedi bod yn torri rhai canghennau derw isel iawn yn y cae ac mi wnes i achub cwpl a oedd yn edrych yn eithaf pert efo cen a oakmoss. Mi wnes i rai addurniadau Nadolig o galonnau crefft bren a defnydd gingham o gloriau pot jam. Hefyd dw i wedi gwneud cwcis siâp calon, sinamon ac afal. Rŵan mae fy nesg yn cael ei haddurno ar gyfer Santes Dwynwen a dylai parhau tan Ddydd Gŵyl Sant Ffolant.
Cyflwyniad
Mae'r tŷ gwastad yn edrych mor foel ar yr adeg hon o'r flwyddyn ac nid oes dim yn tyfu yn yr ardd i wneud pethau edrych yn well. Dw i’n cofio Wizzard yn canu " I wish it could be Christmas everyday " Dw i ddim isio'r holl drafferth o Nadolig bob dydd ond dw i’n mwynhau gwneud addurniadau ar gyfer y tŷ a rhoddion cartref. Mae gwastad yn rhywbeth i'w ddathlu - Sant Ffolant, Gwanwyn, Sul y Mamau, y Pasg ac ati. Felly eleni dw i'n dechrau’r blog hwn i gofnodi beth i wneud a hefyd i ymarfer ysgrifennu yn y Gymraeg.
Subscribe to:
Posts (Atom)